Mae o leia’ 24 o bobol wedi marw ac 19 wedi’u hanafu ar ôl i fws daro yn erbyn cerbyd arall yn Ecwador.
Roedd y bws o Golombia yn teithio i briddinas y wlad, Quito, pan fu mewn gwrthdrawiad â cherbyd llai mewn man peryglus o’r ffordd tua tri y bore – trofa’r dyn marw ydi un enw ar yr ardal.
Mae’n debyg bod pobol o Golombia a Venezuela ymhlith y rheiny a fu farw ar y bws a bu farw tri pherson, gan gynnwys dau blentyn, yn y cerbyd arall.
Yr ail ddamwain
Dyma’r ail ddamwain ffordd angheuol i ddigwydd yn Ecwador yn ystod y tridiau diwetha’.
Ddydd Sul, cafodd 12 o bobol eu lladd a 30 eu hanafu ar ôl i fws foelyd wrth gario cefnogwyr pêl-droed un o glybiau enwoca’r wlad, Barcelona SC.
Bydd tuag 13 o bobol yn cael eu lladd bob dydd ar ffyrdd Ecwador.