Mae heddlu arbenigol yn rhanbarth Somali, Ethiopia, wedi lladd 41 o bobol a chlwyfo 20 o bobol eraill, wrth i drais ethnig herio penodiad y prif weinidog newydd.

Mae Heddlu Liyu yn cael eu cyhuddo o dargedu pobol Oromo yn ardal Dwyrain Hararghe.

Mae misoedd o densiwn rhwng pobol o dras Somali a phobol Oromo yn Ethiopia, wedi bod yn gyfrifol am orfodi mwy na miliwn o drigolion o’u cartrefi.

Fe ymddiswyddodd arlywydd y rhanbarth, Abdi Mohammed Omar, yr wythnos ddiwethaf, wedi trais ym mhrifddinas y rhanbarth, Jigjiga, lle mae eglwysi a busnesau wedi’u targedu.

Mae’r prif weinidog, Abiy Ahmed, yn y cyfamser yn annog heddwch ymhlith grwpiau ethnig, ond mae cannoedd ar filoedd o bobol wedi’u gorfodi i ffoi oherwydd y trafferthion.