Mae beth bynnag 20 o bobol wedi marw, wedi i bont ar briffordd sy’n cysylltu’r Eidal gyda Ffrainc gwympo yn ystod storm.

Fe ddigwyddodd y ddamwain yn ninas Genoa, gan achosi i gerbydau blymio bron i 150 troedfedd i mewn i dwmpath o rwbel islaw.

Roedd adran anferth o Bont Morandi Bridge wedi cwympo yn adran ddiwydiannol y ddinas yng ngogledd-orllewin y wlad.

Mae maer Genoa, Marco Bucci, yn dweud fod cymaint â 25 o bobol wedi marw, gydag 11 arall yn cael eu cludo i ysbytai ar ôl cael eu hachub o’r rwbel.