Mae o leia’ 36 o bobol wedi marw yn dilyn ffrwydrad mewn stordy arfau yng ngogledd Syria.

Digwyddodd y ffrwydrad yn Sarmada – pentref ger y ffin â Thwrci – ac mae’n debyg bod plant ymhlith y meirw.

Aelod o Bwyllgor Annibyniaeth y Lefant – grŵp sydd â chysylltiadau a grŵp eithafol al-Qaida – oedd yn gyfrifol am y stordy arfau.

Bellach, mae dau adeilad pum llawr a oedd uwchben y stordy tanddaearol, wedi dymchwel.

Rhai milltiroedd i’r de o Sarmada, yn ninas Idlib, mae Llywodraeth Syria wrthi’n paratoi ar gyfer ymosodiad mawr.

Dyma yw un o gadarnleoedd olaf gwrthryfelwyr y wlad – maen nhw eisoes wedi colli tir yn Damascus, Daraa a Quneitra.