Mae dyn o Tsieina wedi cael ei ladd gan hipopotamws wrth dynnu lluniau ger llyn yng Nghenia.

Fe ddigwyddodd yr ymosodiad ger llyn Naivasha yn Nyffryn Rift.

Cafodd un person arall ei anafu yn y digwyddiad nos Sadwrn, ac fe gafodd driniaeth yn yr ysbyty.

Dydy hi ddim yn glir ar hyn o bryd sut y digwyddodd, ond mae ymosodiadau o’r fath yn anarferol.