Mae pump o bobol, gan gynnwys arweinydd Brawdoliaeth Fwslimaidd yr Aifft, wedi’u dedfrydu i oes o garchar am nifer o droseddau treisgar.
Mae Mohammed Badie hefyd wedi’i ddedfrydu i farwolaeth nifer o weithiau ers iddo gael ei arestio am y tro cyntaf yn 2013.
Ymhlith y troseddau mae annog trais a chynllwynio ymosodiadau yn erbyn y wladwriaeth.
Mae pedwar o bobol eraill wedi’u dedfrydu i garchar am 10 i 15 mlynedd, a hynny mewn perthynas â marwolaeth saith o bobol yn 2013.
Mae disgwyl i’r pump apelio yn erbyn y dyfarniad sy’n deillio o’r cyfnod ar ôl i’r Arlywydd Mohammed Morsi gael ei symud o’i swydd mewn gwrthryfel.
Cafodd miloedd o bobol eu lladd gan luoedd diogelwch y wlad yn 2013 yng nghanol protestiadau eang.