Mae cyn-Brif Weinidog Malaysia wedi methu yn ei ymgais i atal y wasg rhag trafod cyhuddiadau yn ei erbyn.

Mae Najib Razak wedi pledio’n ddieuog i saith cyhuddiad yn ei erbyn, gan gynnwys camddefnydd arian a chamddefnydd pŵer.

Yn dilyn gwrandawiad yn yr Uchaf Lys, mae barnwr wedi dyfarnu y byddai rhwystro’r wasg rhag gohebu ar y mater yn “sathriad mawr” ar y rhyddid i lefaru.

“Dydy tawelu’r wag ddim yn hybu’r gyfraith, ac nid yw’n offeryn o gyfiawnder,” meddai’r barnwr.

Mae cyfreithwyr Najib Razak wedi dweud y byddan nhw’n apelio yn erbyn y penderfyniad, gan ei bod yn credu bod gohebiaeth ar y mater yn ei rhwystro rhag cael achos llys teg.