Cyn yr ymladd - sgwar yng nghanol Sirte
Mae gwasanaeth newyddion Al Jazeera’n dweud bod lluoedd y Cyrnol Gaddafi’n ymladd yn galed yn erbyn llywodraeth newydd Libya.

Er bod arweinwyr y Cyngor Trawsnewid Cenedlaethol yn dweud eu bod yn hyderus y byddan nhw’n cipio’r ychydig drefi sydd ar ôl yn nwylo’r cyn arweinydd, fe ddywedodd milwyr cyffredin wrth ohebwyr y gwasanaeth fod y gwrthwynebiad yn gryf.

Yn nhref Bani Walid, meddai Al Jazeera, roedd milwyr y Cyngor wedi oedi am ychydig ddoe ond fod lluoedd Gaddafi wedi bod yn saethu atyn nhw gyda gynnau mawr gan ladd nifer.

Cilio o Sirte

Yng nghadarnle arall Muammar Gaddafi, Sirte, roedd lluoedd y Cyngor wedi gorfod cilio gydag adroddiadau bod o leia’ ddeg ohonyn nhw wedi eu lladd.

Ond fe lwyddon nhw i gipio un tref rechan Hirawa, 38 milltir o Sirte, sydd ar yr arfordir yng nghanol y wlad.

Mae’n ymddangos hefyd bod milwyr Gaddafi’n cael eu cyfle ola’ i ildio – yn ôl llefarydd milwrol y Cyngor Trawsnewid, Ahmed Bari, fe fydd y gweddill yn cael eu cyhuddo o uchel frad.

Cyhuddo Nato o ladd cannoedd

Yn y cyfamser, mae llefarydd ar ran Nato wedi wfftio at honiadau’r Cyrnol Gaddafi fod awyrennau’r Gorllewin wedi lladd 354 o bobol mewn ymosodiad ar Sirte.

Mewn galwad i asiantaeth newyddion ryngwladol Reuters, roedd Moussa Ibrahim yn dweud bod ymosodiadau Nato wedi lladd 2,000 o bobol gyffredin yn y dref mewn cyfnod o 17 diwrnod.

Yn ôl Nato, mae honiadau tebyg wedi eu gwneud o’r blaen ac wedi cael eu profi naill ai’n “anghywir neu’n amhendant”.