Mae pedwar o bobol – gan gynnwys dau heddwas – wedi cael eu saethu’n farw mewn dinas yn nwyrain Canada.

Mae heddlu dinas Fredericton wedi dweud bod unigolyn yn y ddalfa, ond dydyn nhw ddim wedi cyhoeddi enwau’r swyddogion a fu farw.

Cafodd y pedwar eu saeth mewn bloc o fflatiau.

Does dim rhagor o fanylion ynglŷn â sut y bu farw’r swyddogion heddlu.

Yn 2014, bu farw tri heddwas, a chafodd dau eu hanafu, yn sgil ymosodiad yn Moncton – dinas sydd yn yr un dalaith a Fredericton.