Mae Prif Weinidog Rwsia wedi rhybuddio y bydd pris i’w dalu os bydd America yn cyflwyno mwy o sancsiynau.

Ddydd Mercher fe gyhoeddodd Llywodraeth America y bydd yn gwrthod trwyddedau i Rwsia fedru prynu nwyddau sy’n ymwneud â diogelwch cenedlaethol.

Mae’r sancsiynau mewn ymateb i wenwyno Sergei Skripal a’i ferch yng Nghaersallog.

Ond mae Rwsia yn gwadu unrhyw ran yn y gwenwyno, a’r Prif Weinidog yn bygwth “rhyfel economaidd” yn erbyn America os bydd sancsiynau yn erbyn banciau Rwsia.

Dywedodd Dmitry Medvedev y bydd Rwsia yn ymateb “gyda dulliau economaidd, dulliau gwleidyddol ac, os oes raid, mewn ffyrdd eraill. Fe ddylai ein cyfeillion Americanaidd ddeall hynny.”

Mae cynigion yn America i ddeddfu er mwyn rhewi asedau banciau sy’n cael eu rheoli gan Rwsia.

“Os daw rhywbeth fel gwaharddiad ar weithdrefnau banc neu arian, bydd yn golygu rhyfel economaidd,” meddai Prif Weinidog Rwsia.