Mae 1,600 o bobl wedi cael eu hachub o dri rhanbarth yn ne Ffrainc ar ôl i law trwm achosi llifogydd.

Maen nhw wedi cael eu symud fel rhagofal o ranbarthau Gard, Ardeche a Drome.

Un o’r rhanbarthau gafodd eu heffeithio waethaf oedd Gard, lle cafodd 119 o blant, nifer ohonyn nhw o’r Almaen, eu hachub o wersyll yn Saint-Julien-de-Peyrolas.

Roedd tua 750 o bobl wedi cael eu gorfodi i adael Gard, yn bennaf o wersylloedd.

Dyn ar goll

Mae deifwyr yn chwilio’r afonydd am ddyn 70 oed sydd ar goll. Credir ei fod yn ddinesydd o’r Almaen ac wedi cael ei sgubo i’r dŵr wrth yrru ei fan.

Cafodd pedwar o blant o’r Almaen eu cludo i’r ysbyty yn dioddef o hypothermia yn Bagnols-sur-Ceze, tref ger Afon Ceze.

Fe fu 400 o ddiffoddwyr tan a swyddogion yr heddlu, ynghyd a hofrenyddion, yn rhan o’r ymgyrch i achub pobol. Mae nifer o ffyrdd ynghau ac mae’r awdurdodau wedi rhybuddio pobol i fod yn wyliadwrus.