Barack Obama - eisiau rhagor o incwm o drethi
Mae Arlywydd yr Unol Daleithiau’n wynebu brwydr arall yn erbyn aelodau’r Senedd wrth geisio codi rhagor o drethi ar bobol gyfoethog.

Fe wnaeth Barack Obama’n glir y bydd yn ceisio cael cyfradd dreth sylfaen newydd ar gyfer y rhai sy’n ennill mwya’ ac y bydd hynny’n rhan o’r mesurau y bydd yn eu cyhoeddi fory i leihau diffyg ariannol y wlad.

Fe fydd hyn yn ychwanegol at y £285 biliwn ychwanegol y mae’n gobeitho’i godi o drethi ac mae’n debyg o gael gwrthwynebiad cry’ ymhlith Gweriniaethwyr y Senedd.

Eisoes, mae Llefarydd Tŷ’r Cynrychiolwyr wedi dweud ei fod yn erbyn unrhyw gynnydd mewn treth i ac mai’r unig ddewis i wella’r sefyllfa economaidd yw torri gwario a budd-daliadau.

Yn ôl sylwebwyr gwleidyddol, y canlyniad tebygol yw cyfaddawd rhwng y ddwy ochr gyda Barack Obama’n gorfod ildio rhywfaint ar fudd-daliadau er mwyn cael codiadau treth.