Mae Senedd yr Ariannin wedi gwrthod mesur i gyfreithloni erthylu yn y 14 wythnos gyntaf o feichiogrwydd.
Bu gwleidyddion yn dadlau am dros 15 awr ac yn y diwedd, pleidleisio 38-31 yn erbyn y ddeddf.
Roedd miloedd o bobol ar ddwy ochr y ddadl yn gwylio’r drafodaeth ar sgriniau mawr am oriau y tu allan i’r Gyngres yn y gwynt a’r glaw yng ngaeaf y wlad.
Roedd y rhan fwyaf yn gwylio yn heddychlon ond wedi’r bleidlais, fe wnaeth grŵp bach o brotestwyr wrthdaro gyda’r heddlu, gan daflu bomiau tân.
Yn yr Ariannin, mae cael erthyliad dim ond yn cael ei ganiatáu mewn achosion o dreisio a pheryglon i iechyd menyw.
Bob blwyddyn, mae miloedd o fenywod y wlad yn gorfod mynd i’r ysbyty yn sgil cymhlethdodau yn gysylltiedig ag erthyliadau anniogel, sef y prif achos dros farwolaeth mamau.