Mae llong achub yn cario 87 o ffoaduriaid o Affrica a gafodd eu hachub o’r Môr Canoldir, wedi docio ym mhorthladd Algeciras yn ne Sbaen.

Fe ddaw wrth i densiynau gynyddu yn Sbaen tros nifer y mewnfudwyr i’r wlad.

Yn ôl y grwp dyngarol o Sbaen sy’n berchen y cwch, mae’r llwyth diweddaraf yn ffoi rhag rhyfel yn Sudan, ac wedi’u codi oddi ar arfordir Libya ar Awst 2.

Mae Sbaen wedi caniatau i’r llong ddocio, er bod gwledydd eraill yn Ewrop wedi gwrthod iddi ddod ar eu cyfyl.