Mae’r rhedwr 400m dros y clwydi o Cenia, Nicholas Bett, wedi marw mewn damwain draffig.

Yn ôl yr awdurdodau yn Cenia, bu farw’r rhedwr mewn damwain ffordd yn gynnar ddydd Mercher (awst 8), a hynny mewn ardal yng ngorllewin y wlad.

Mae hyfforddwr Nicholas Bett, Cincent Mumo, wedi cadarnhau bod cerbyd yr athletwr wedi taro lympiau ar ffordd a achosodd iddo rowlio.

Fe enillodd y gŵr o Cenia y fedal aur wedi iddo ddod yn fuddugol yn y ras 400m dros y clwydi yn y Gemau Olympaidd yn Beijing yn 2015.

Roedd newydd ddychwelyd o’r Bencampwriaethau Affricanaidd yn Nigeria nos Lun, cyn y bu farw drannoeth.

Mae gan Nicholas Bett efaill, sef Aron, sydd hefyd yn athletwr a fu’n cystadlu yn y pencampwriaethau yr wythnos ddiwethaf.