Mae dynes o’r Almaen wedi cael ei charcharu am gam-drin a gwerthu ei mab ar y we i bedoffiliaid .

Mae gwasanaeth newyddion y dpa yn adrodd bod Llys Rhanbarthol Freiburg wedi dedfrydu’r ddynes i 12 mlynedd a hanner yn y carchar, tra bo ei phartner wedi derbyn 12 mlynedd.

Roedd y fam 48 oed a’r dyn 38 oed wedi’u cyhuddo o gam-drin a threisio’r bachgen, sydd bellach yn 10 oed, ynghyd â’i werthu ar y we dywyll i ddynion am ryw.

Fe gafodd y ddau eu harestio yn ystod tymor yr hydref y llynedd, ynghyd â chwe pherson arall.

Mae nifer o’r dynion eisoes wedi’u dedfrydu mewn achosion llys ar wahân.

Yn ogystal â derbyn cyfnodau o garchar, mae’r fam â’i phartner wedi cael gorchymyn i dalu cyfanswm o 42,500 euro (£38,000) mewn iawndal i’r bachgen ac un dioddefwr arall, sef merch ifanc.

Ers yr achos llys, mae’r awdurdodau lleol wedi dod o dan y lach, gyda nifer yn eu cyhuddo o fethu ag amddiffyn y bachgen, sydd bellach yn byw gyda rhieni maeth.

Roedd swyddogion wedi’i gymryd oddi ar ei fam fis Mawrth y llynedd, cyn ei ddychwelyd i’w gofal wythnos yn ddiweddarach.