Mae’r Unol Daleithiau wedi ailgyflwyno cyfres o sancsiynau yn erbyn Iran.

Roedd y sancsiynau wedi cael eu codi yn ystod y blynyddoedd diwetha’, ar ôl i lywodraeth Iran gytuno i beidio â datblygu arfau niwclear.

Ond mae Arlywydd yr Unol Daleithiau, Donald Trump, wedi arwyddo gorchymyn sy’n golygu y bydd y sancsiynau’n cael eu hailosod yn ystod y flwyddyn nesa’.

Bydd rhai o’r sancsiynau yn effeithio ar allu Iran i brynu doleri Americanaidd a metelau prin fe aur, ynghyd â’i gallu i bryn awyrennau masnachol.

Bydd ail set o sancsiynau wedyn yn cael eu cyflwyno ym mis Tachwedd, gyda’r rheiny’n targedu’r diwydiant olew a banc canolog y wlad.

“Dau ddewis”

Daw’r weithred hon dri mis ar ôl i’r Unol Daleithiau adael y cytundeb rhyngwladol gydag Iran a gafodd ei greu yn ystod cyfnod Barack Obama yn Arlywydd.

Roedd Donald Trump wedi cyhoeddi yn 2015 ei fod yn credu bod y cytundeb yn “afiach”, gan ei fod yn sicrhau bod gan Lywodraeth Iran ddigon o arian i noddi brwydro yn y Dwyrain Canol.

Mewn datganiad ar drothwy ailgyflwyno’r sancsiynau yr wythnos hon, mae’r Arlywydd yn dweud bod angen rhoi “neges glir” i Iran.

Y ddau ddewis i Iran, meddai wedyn, yw naill ai rhoi’r gorau i’w “hymddygiad bygythiol” a chydymffurfio â economi’r byd, neu gael eu “hynysu” yn economaidd.

Mae hefyd wedi dweud bod y gwledydd hynny sy’n gwrthod dilyn yr un trywydd â’r Unol Daleithiau yn wynebu “goblygiadau difrifol”.