Bu bron i dre’ ym Mhortiwgal gael ei feddiannu gan fflamau yn ystod y nos wrth i dân gwyllt ledu mewn ardal ddeheuol o’r wlad.

Yn ôl Asiantaeth Diogelwch Sifil y wlad, mae 44 o bobol angen triniaeth feddygol, wrth i’r fflamau ledu ar gyrion tre’ Monichque, sydd tua 155 i’r de o Lisbon.

Yn brwydro’r fflamau mae mwy na 1,000 o ddiffoddwyr tân, gyda 327 o gerbydau a saith awyren yn  rhan o’r ymgyrch.

Mae’r tân wedi lledu mewn darn o goedwig anghysbell ger traethau enwog ardal yr Algarve, gyda chymylau o fwg i’w gweld yn yr ardal sy’n boblogaidd gan dwristiaid.

Mae’r gwasanaeth tân ar hyn o bryd yn disgwyl i’r tywydd oeri ychydig, a fydd yn eu helpu i gael y fflamau o dan reolaeth.