Mae Hiroshima wedi nodi 73 mlynedd ers yr ymosodiad bom niwclear ar y ddinas mewn seremoni i gofio’r rhai gafodd eu lladd ac i alw am waredu ag arfau niwclear.

Daw hyn yn sgil gobeithion bod Gogledd Corea am gael gwared a’i harfau niwclear yn dilyn cyfarfod rhwng yr Arlywydd Donald Trump a’r arweinydd Kim Jong Un ym mis Mehefin.

Wrth gofio’r rhai fu farw yn yr ymosodiad ar 6 Awst 1945, roedd Maer Hiroshima, Kazumi Matsui, wedi annog Siapan i ddangos mwy o arweiniad er mwyn cyrraedd y nod o fyd heb arfau niwclear.

Roedd yr ymosodiad gan yr Unol Daleithiau wedi lladd 140,000 o bobl tra bod yr ymosodiad ar Nagasaki dridiau’n ddiweddarach wedi lladd mwy na 70,000 o drigolion. Fe arweiniodd at Siapan yn ildio gan ddod a diwedd i’r Ail Ryfel Byd.

Daeth tua 50,000 o bobl, gan gynnwys trigolion Hiroshima a chynrychiolwyr o 58 o wledydd, i’r seremoni eleni.