Mae tri aelod o luoedd NATO wedi’u lladd gan hunanfomiwr yn nwyrain Afghanistan.
Cafodd milwr Americanaidd a dau filwr o Afghanistan eu hanafu yn y ffrwydrad hefyd.
Mae’r Taliban yn dweud mai nhw oedd yn gyfrifol.
Fe ddigwyddodd ger Charakar, prifddinas talaith Parwan.
Daeth gweithrediadau NATO i ben yn y wlad yn 2014, ond mae miloedd o luoedd yn parhau i gynnig cefnogaeth a hyfforddiant i filwyr o’r wlad, ac yn cwblhau gwaith gwrth-frawychol.