Y porthlad yn Pemba lle'r oedd y fferi'n mynd
Mae pedwar o bobol wedi cael eu cyhuddo tros y llong fferi a suddodd gan ladd mwy na 240 o bobol yn Zanzibar.

Fe ddaethpwyd â’r cyhuddiad o esgeulustod yn erbyn perchennog y llong MV Spice Islander, y prif swyddog ac un o swyddogion porthladd Zanzibar. Roedd yna gyhuddiad hefyd yn erbyn y capten, sy’n parhau i fod ar goll.

Roedd y fferi’n teithio rhwng dwy brif ynys Zanzibar, Unguja a Pemba, ac fe ddaeth hi’n amlwg o’r dechrau fod llawer gormod o deithwyr arni.

Fe lwyddodd 800 o bobol i oroesi ond mae o leia’ 240 wedi  marw – does neb yn gwybod yn iawn faint o bobol oedd ar y bwrdd.

Mae’r cyhuddiadau wedi eu dwyn gan awdurdodau Tanzania – mae Zanzibar yn rhan wedi datganoli o’r wlad yn nwyrain Affrica.