Mae dynes Foslemaidd 28 oed o Ddenmarc wedi cael dirwy am wisgo penwisg oedd yn cuddio’i hwyneb tra ei bod hi’n siopa.

Hi yw’r person cyntaf i gael dirwy am dorri deddfwriaeth newydd sy’n gwahardd pobol rhag gwisgo penwisg o’r fath yn gyhoeddus.

Cafodd yr heddlu eu galw i ganolfan siopa yn Horsholm ddydd Gwener.

Cafodd hi ddirwy o 1,000 Kroner (£120), a gorchymyn i dynnu’r benwisg neu adael y ganolfan. Gadawodd hi’r ganolfan.

Fe fu protestiadau yn y wlad ers i’r ddeddf newydd ddod i rym ar Awst 1. Mae’r ddeddf yn galluogi pobol i wisgo penwisg mewn tywydd oer neu er mwyn cydymffurfio â’r gyfraith, gan gynnwys gwisgo helmed ar gefn beic.

Gallai unrhyw un sy’n torri’r gyfraith yr ail waith gael dirwy o hyd at 10,000 Kroner (£1,200) neu gyfnod o hyd at chwe mis yn y carchar.