Mae un o fynachod Bwdhaidd amlycaf Tsieina wedi ei gyhuddo o aflonyddu rhywiol a mynnu ffafrau rhywiol gan leianod.

Bydd ymchwiliad i’r cyhuddiadau yn erbyn Shi Xuecheng sydd wedi ei gyhuddo o gam-drin sawl lleian ym Mynachdy Longquan.

Mae dau o’i gyd-fynachod wedi llunio dogfen 95 tudalen yn amlinellu’r camymddwyn honedig, a fydd yn destun ymchwiliad swyddogol gan y llywodraeth.

Mae cynnwys y ddogfen wedi ymddangos ar y cyfryngau cymdeithasol yn Tsieina, ac wedi ennyn ymateb chwyrn a sylw ar gyfryngau’r wlad cyn iddo gael ei sensro.

Mae Shi Xuecheng yn gwadu’r cyhuddiadau o gamymddwyn rhywiol ac o ddwyn tros filiwn o bunnau.

Yn 51 oed, mae’r mynach yn ffigwr crefyddol amlwg iawn yn Tsieina, wedi cyhoeddi sawl llyfr ac yn blogio yn ddyddiol ar gyfer ei ddilynwyr ar y cyfryngau cymdeithasol.

Mae yna tua 250 miliwn o Fwdhyddion yn Tsieina.