Sirte - adeilad Cynulliad
Mae lluoedd llywodraeth newydd Libya wedi gorfod cilio o ddwy o drefi allweddol sy’n dal i fod yn nwylo Muammar Gaddafi.

Ond mae’r gymuned ryngwladol wedi gwneud rhagor i gydnabod y Cyngor Trawsnewid, gan roi sedd Libya iddi ar y Cenhedloedd Unedig.

Maen nhw hefyd wedi llacio’r gwaharddiad ar hedfan tros dir Libya ac wedi’i gwneud yn bosib i fanciau a diwydiant olew’r wlad ailddechrau gweithio.

Er hynny, mae’n ymddangos y gallai’r broses o ddisodli’r Cyrnol Gaddafi fod yn hir, ar ôl i’w ffyddloniaid yntau lwyddi i wrthsefyll ymosodiadau ar drefi Bani Walid a Sirte, ei dref enedigol.

‘Gorfod cilio’

Yn ôl gwasanaeth newyddion Al Jazeera, roedd milwyr y Cyngor wedi gorfod cilio o Bani Walid oherwydd gynnau mawr Gaddafi – er bod awyrennau Nato’n cefnogi’r ymosodiad.

Yn ardal Bani Walid, fe ddywedodd un meddyg ei fod wedi gweld chwech o wrthryfelwyr marw ac, yn Sirte, roedd lluoedd Gaddafi wedi bod yn tanio ar yr ymosodwyr o dyrrau minaréts ac adeiladau uchel eraill.

Yn ôl asiantaeth PA, un pryder yw y bydd Gaddafi a’i gefnogwyr yn gallu parhau i ymladd rhyfel guerrilla am gyfnod hir.