Mae’r Arlywydd Emmerson Mnangagwa wedi ennill etholiad Zimbabwe ar ôl i’w blaid ddal ei gafael ar y llywodraeth.

Dyma oedd y bleidlais gyntaf ers i’r cyn-Arlywydd Robert Mugabe gael ei ddisodli wedi 37 o flynyddoedd wrth y llyw.

Mae disgwyl i’r wrthblaid herio’r canlyniadau yn y llysoedd neu ar y strydoedd. Roedd Emmerson Mnangagwa wedi ennill 50.8% o’r bleidlais tra bod y prif ymgeisydd arall, Nelson Chamisa, wedi cael 44.3%.

Er bod diwrnod yr etholiad wedi bod yn heddychlon mae tensiynau wedi cynyddu wrth i brotestiadau ddechrau ddydd Mercher gan rai sy’n honni bod y  canlyniadau wedi cael eu ffugio. Mae pryderon wedi cael eu mynegi am y “gorddefnydd” o rym gan luoedd y wlad yn y brifddinas, Harare.

Cafodd chwech o bobol eu lladd ac 14 eu hanafu yn ystod y trais, meddai’r heddlu. Mae 18 o bobol wedi cael eu harestio.

Mae Emmerson Mnangagwa, 75, wedi galw am “ymchwiliad annibynnol” i’r trais ddydd Mercher.