Mae plaid Zanu-PF wedi ennill mwyafrif o’r seddi yn senedd Zimbabwe, yn ôl comisiwn etholiadol y wlad.
Zanu-PF sydd eisoes mewn grym, a bellach maen nhw wedi ennill 109 o seddi Tŷ’r Cynulliad allan o gyfanswm o 210.
Dyw’r comisiwn etholiadol ddim wedi cyhoeddi’r canlyniadau i gyd eto, felly mae’n bosib y gallai mwyafrif y blaid fod hyd yn oed yn fwy.
Yr MDC (y Mudiad tros Newid Democrataidd) yw’r brif wrthblaid ac mae’n debyg eu bod hwythau wedi ennill 41 o seddi’r senedd.
Cafodd etholiad cyffredinol Zimbabwe ei gynnal ddydd Llun (Gorffennaf 30), a dan drefn y wlad honno mae’r senedd a’r Arlywydd yn cael eu hethol ochr yn ochr.
Yr Arlywydd Emmerson Mnangagwa ac arweinydd yr MDC, Nelson Chamisa, yw’r ceffylau blaen yn y bleidlais arlywyddol. Dyw’r enillydd heb gael ei gyhoeddi eto.