Mae trafodaethau arwyddocaol rhwng arweinwyr y fyddin yng ngogledd a de Corea wedi dod i ben, gyda dim un o’r ddwy ochr yn dod i gytundeb.

Er hyn, mae’r cadfridogion wedi dweud bod y trafodaethau wedi mynd yn dda, yn enwedig wrth geisio lleihau’r tensiynau milwrol sy’n bodoli rhwng y ddwy wlad.

Dyma’r ail gyfarfod i gael ei gynnal rhwng cadfridogion y ddwy wlad ers i arweinydd y Gogledd, Kim Jong-un, gyfarfod ag Arlywydd y De, Moon Jae-in, mewn uwchgynhadledd ar y ffin ym mis Ebrill.

Wrth i’r cyfarfod diweddara’ hwn gael ei gynnal, roedd papur newydd The Washington Post yn adrodd bod gan y gwasanaethau gwybodaeth yn yr Unol Daleithiau dystiolaeth a oedd yn dangos bod Gogledd Corea yn parhau i ddatblygu rocedi newydd.

Daeth y newyddion hwn er gwaetha’r ffaith bod y Gogledd wedi rhoi’r addewid y byddai’n rhoi’r gorau i’w chynllun datblygu arfau niwclear.