Mae Arlywydd yr Unol Daleithiau, Donald Trump, wedi dweud y byddai’n cwrdd ag Arlywydd Iran, Hassan Rouhani, heb unrhyw amodau.

“Wna’i siarad â nhw pryd bynnag y hoffan nhw,” meddai mewn cynhadledd i’r wasg. “Wna’i gwrdd ag unrhyw un. Does dim byd yn bod â chynnal cyfarfod.”

Daw’r sylw wrth i densiynau rhwng yr Unol Daleithiau ac Iran ddwysau.

Bellach mae Donald Trump wedi cefnu ar ddêl niwclear Iran, sef cytundeb sy’n lleihau sancsiynau ar Iran, ond yn cyfyngu ar eu rhaglen arfau niwclear.

Ac yn gymharol ddiweddar, mae’r Arlywydd wedi ymrwymo i osod rhagor o sancsiynau ar y wlad, gan alw arnyn nhw i newid eu polisïau tramor.

Dyw hi ddim yn glir os oes awydd yn Iran am drafodaethau, ac mae rhai adroddiadau’n awgrymu eu bod wedi gwrthod cynigion gan Donald Trump am gyfarfodydd.