Mae swyddogion yn Zimbabwe wedi dechrau ar y broses o gyfri pleidleisiau, yn dilyn etholiad cyffredinol dydd Llun (Gorffennaf 30).

Dyma oedd etholiad cyntaf y wlad ers i Robert Mugabe – Arlywydd y wlad am 37 mlynedd – ildio grym, a heidiodd dros 5.5 miliwn i’r gorsafoedd pleidleisio.

Roedd hi’n ddiwrnod ddigon heddychlon, yn ôl adroddiadau, a gwnaeth 70% o’r boblogaeth sy’n gymwys i daro pleidlais, gymryd rhan.

Mae Comisiwn Etholiadol Zimbabwe wedi dweud y byddan nhw’n cyhoeddi canlyniad y bleidlais o fewn pum diwrnod.

Mae disgwyl cyhoeddiad hefyd gan arolygwyr annibynnol, a chafodd eu hanfon i gadw llygad ar yr etholiad. Mi fyddan nhw’n datgan os oedd y bleidlais yn deg neu beidio.