Bydd pobol Zimbabwe yn heidio i’r gorsafoedd pleidleisio heddiw (Gorffennaf 30) i fwrw pleidleisiau yn etholiad cyffredinol y wlad.

Am y tro cyntaf ers degawdau, ni fydd Robert Mugabe – a fu’n arlywydd am 37 o flynyddoedd – ar y papur pleidleisio.

Ac oherwydd hynny mae’r bleidlais yn cael ei hystyried fel cyfle i Zimbabwe wfftio’r gorffennol, ac ennyn hygrededd rhyngwladol unwaith eto.

Mae 5.5 miliwn o bobol wedi’u cofrestru i bleidleisio yn yr etholiad, ac fe fydd 20 ymgeisydd arlywyddol a 130 o bleidiau yn cymryd rhan.

O’r ymgeiswyr arlywyddol mae ‘na ddau geffyl blaen yn y ras, sef y cyn-Ddirprwy Arlywydd, Emmerson Mnangagwa; a Nelson Chamisa, cyfreithiwr a gweinidog o’r wrthblaid.

Yn y gorffennol mae cwestiynau wedi codi am ba mor deg mae etholiadau’r wlad, felly eleni fe fydd arolygwyr annibynnol yn cymryd rhan gyda’r nod o atal twyll.