Mae Arlywydd yr Unol Daleithiau, Donald Trump wedi dweud y byddai’n barod i “gau’r llywodraeth” pe bai’r Democratiaid yn gwrthod cefnogi ei bolisi mewnfudo dadleuol.

Mae’r cynlluniau’n cynnwys codi wal rhwng yr Unol Daleithiau a Mecsico.

Mae’r Gweriniaethwyr eisoes wedi dweud na fyddai’r llywodraeth yn cael ei chau.

Does dim disgwyl i’r mater gael ei ddatrys tan ar ôl yr etholiad nesaf ym mis Tachwedd.