Mae cyfreithiwr Slobodan Milosevic, cyn-arweinydd Serbia, wedi cael ei saethu’n farw yn ninas Belgrade.

Roedd Dragoslav Ognjanovic wedi ei gynrychioli yn ystod tribiwnlys yn yr Iseldiroedd, lle wynebodd e gyhuddiadau o droseddau rhyfel yn ymwneud â’r hen Iwgoslafia yn niwedd y 1990au.

Cafodd ei ladd nos Sadwrn y tu allan i’w gartref, a chafodd ei fab 26 oed ei anafu yn y digwyddiad.

Bu farw Slobodan Milosevic o drawiad ar y galon yn 2006.

Mae’r heddlu’n chwilio am y sawl oedd yn gyfrifol.