Mae o leiaf 14 o bobol wedi’u lladd a 160 yn rhagor wedi’u hanafu ar ôl i ddaeargryn daro ynys Lombok yn Indonesia.

Mae’r ynys, sydd ger Bali, yn boblogaidd ymhlith twristiaid.

Cafodd dwsinau o gartrefi ac adeiladau eu dinistrio.

Bu farw wyth o bobol yn nwyrain Lombok, yn ôl yr awdurdodau. Cafodd y rhan fwyaf ohonyn nhw eu lladd gan goncrid yn cwympo.

Mae disgwyl i nifer y meirw godi eto, wrth i’r awdurdodau barhau i gasglu gwybodaeth yn sgil y digwyddiad.

Fe wnaeth y daeargryn hefyd achosi tirlithriad oddi ar fynydd Rinjani, ond dydy ei effaith ddim yn glir ar hyn o bryd. Mae’r awdurdodau wedi cau’r parc cenedlaethol am y tro.