Mae’n ymddangos fod plaid y cyn-gricedwr Imran Khan wedi ennill digon o gefnogaeth i ffurfio clymblaid i lywodraethu Pacistan.

Dywedodd llefarydd ar ran Tahreek-y-Insaf – plaid Imran Khan – y byddai cyhoeddiad swyddogol yn cael ei wneud yr wythnos nesaf ynghylch union nifer y gwleidyddion sydd wedi cytuno i fod yn rhan o’r llywodraeth.

Ychwanegodd y llefarydd fod llwyddiant y blaid yn yr etholiad cyffredinol ddydd Mercher yn golygu diwedd ar ddegawdau o reolaeth aelodau o’r un teulu yn Pacistan.

Wrth i ganlyniadau terfynol yr etholiad gael eu cyhoeddi heddiw, mae plaid Imran Khan wedi ennill 115 o’r 269 o seddau’r Cynulliad Cenedlaethol, tra bod ei brif wrthwynebydd, Shahbaz Sharif a Chynghrair Mwslimiaid Pacistan wedi ennill 64 o seddau.