Mae cyn-arlywydd Catalunya, Carles Puigdemont, wedi dychwelyd i wlad Belg i ddal i geisio cefnogaeth i’r ymgyrch dros annibyniaeth i’w wlad.

Cyrhaeddodd yno’r bore yma o’r Almaen ar ôl i lywodraeth Sbaen fethu yn ei hymgais i’w estraddodi ar gyhuddiadau o wrthryfela.

Roedd ei olynydd, Quim Torra, wedi teithio i Frwsel i’w groesawu.

Roedd wedi dianc o Sbaen ar ôl yr helyntion yn dilyn datganiad o annibyniaeth i Catalunya ym mis Hydref y llynedd.

Roedd wedi bod yn yr Almaen ers mis Mawrth, lle cafodd ei arestio ar warant o Sbaen wrth yrru’n ôl i wlad Belg o’r Ffindir.

Bellach, mae barnwr yn Sbaen wedi tynnu’n ôl y warant ryngwladol i’w arestio, er y gallai ddal i gael ei arestio pe bai’n dychwelyd i Sbaen.