Mae ffrwydron rhyfel yn achosi trafferthion i ddiffoddwyr tân yn yr Almaen, wrth iddyn nhw geisio mynd i’r afael â thanau yno.
Mae’n debyg bod ymdrech ar droed i fynd i’r afael â thanau gwyllt yng nghoedwig Fichtenwalde, sydd rhyw ugain milltir i’r de o Ferlin.
Ac er bod y fflamau dan reolaeth, mae diffoddwyr tân yn pryderu am ffrwydron o’r Ail Ryfel Byd sydd wedi’u claddu dan y coed.
Cred yr awdurdodau yw bod ambell i ddyfais eisoes wedi ffrwydro.
Tywydd poeth
Yn debyg i weddill Ewrop, mae’r Almaen yn profi tywydd llawer sychach a phoethach na’r arfer, ac mae’r risg o danau gwyllt yn uchel yno.
Sefyllfa debyg sydd yng Nghymru – ond heb ffrwydron rhyfel – lle mae diffoddwyr tân wrthi’n delio ag achosion yn ardal Caerffili a Llangollen.