Bu farw gwraig 117 oed o Japan, y ddynes oedd yn cael ei hystyried y person hynaf yn y byd.

Roedd Chiyo Miyako yn byw yn y dalaith i’r de o Tokyo.

Fe gafodd ei geni ar Fai 2, 1901, ac fe ddaeth y person hynaf yn y byd ym mis Ebrill eleni, wedi marwolaeth Nabi Tajima, o ynys Kikai yn ne Japan, hefyd yn 117 oed.

Fe ddaeth cadarnhad hefyd mai Kane Tanaka, o Fukuoka, yn ne Japan, sydd bellach yn hawlio person hynaf y byd yn swyddogol.

Fe ddathlodd dyn hyna’r byd – Masazo Nonaka, o Hokkaido yng ngogledd Japan – ei ben-blwydd yn 113 oed ddydd Mercher yr wythnos hon (Gorffennaf 25).