Mae’r gwaith o chwilio o dŷ i dŷ er mwyn dod o hyd i ragor o bobol sydd ar goll neu wedi’u hanafu yn dilyn tanau ar gyrion dinas Athen yn Groeg, wedi dwysau.

Mae milwyr y wlad yn defnyddio lluniau a drôns i geisio dod o hyd i gyrff, a phenderfynu os y cafodd y fflamau eu cynnau’n fwriadol ai peidio.

Mae patrolau ar y cyd rhwng y gwasanaeth tân, y fyddin ac achubwyr gwirfoddol wedi dod o hyd i gyrff yn y cartrefi ger porthladd Rafina i’r dwyrain o Athen. Mae cyfanswm y meirwon bellach yn 81.

Mae’r tân wedi gorfodi cannoedd i ddianc i gyfeiriad y môr er mwyn cyrraedd diogelwch, gan nofio allan i’r dyfroedd garw er mwyn osgoi’r mwg.