Mae ffrwydrad wedi bod o flaen llysgenhadaeth yr Unol Daleithiau yn Beiing, ac mae’r awdurdodau’n dweud mai dyn 26 oed oedd wedi creu’r ddyfais.

Dim ond ef ei hun a gafodd ei anafu yn y digwyddiad, meddai heddlu lleol.

Mae lluniau ar y gwefannau cymdeithasol yn dangos tipyn o fwg yn yr ardal, a cherbydau’r heddlu yn amgylchynu’r llysgenhadaeth.

Yn ol yr heddlu, mae’r dyn yn hanu o ddinas Tonglia yn Mongolia Fewnol.