Mae Facebook wedi cael gwared ar rwydwaith o dudalennau a chyfrifon yn Brasil, fel rhan o ymgyrch yn erbyn newyddion ffug.

Yn ôl y cwmni, cafodd 196 tudalen ac 87 proffil eu dileu gan eu bod yn ffug.

Bydd etholiad cyffredinol yn cael ei gynnal ym Mrasil ym mis Hydref, a daw’r cam yn sgil pryderon am effaith ffug newyddion ar bleidleiswyr a phleidleisiau.

Mae Facebook eu hunain wedi cael eu beirniadu am fethu a mynd i’r afael â ffug newyddion.

Ac yn ddiweddar mae’r cwmni wedi datgan y byddan nhw’n dileu ffug newyddion a allai achosi trais.

Er hynny, dyw Facebook ddim am waredu ffug newyddion yn llwyr, ac yn eu barn hwythau cyfrifoldeb y cyhoedd yw gwahaniaethu rhwng y gwir a’r gau.