Mae 25 o bobol wedi’u lladd, a 40 wedi’u hanafu, yn dilyn ffrwydrad yn ninas Quetta ym Mhacistan wrth i etholiad cyffredinol y wlad gael ei gynnal.

Mae dau o blant a phum plismon ymhlith y meirw, ac mae pryderon y gallai nifer y meirw godi eto.

Mae trigolion yn pleidleisio am 270 o aelodau cynulliad cenedlaethol a 577 o aelodau cynulliad taleithiol.

Does neb wedi hawlio cyfrifoldeb am yr ymosodiad