Mae Arlywydd Twrci wedi beirniadu deddf newydd gan Israel, gan ei gymharu â gwaith y Natsïaid.

Dan y ddeddf, a gafodd ei basio’r wythnos ddiwetha’, bydd Israel yn cael ei chydnabod fel cenedl-wladwriaeth yr Iddewon – a’r Iddewon yn unig.

Gan ymateb iddi, mae Recep Tayyip Erdogan wedi dweud bod “enaid Hitler wedi atgyfodi o fewn rhai o swyddogion Israel.”

Hefyd mae wedi dweud “nad oes unrhyw wahaniaeth rhwng obsesiwn Hitler â hil bur, a’r gred bod y tiroedd hynafol yma ar gyfer yr Iddewon yn unig.”

Mae’r Arlywydd wedi galw ar y gymuned ryngwladol i wrthwynebu Israel, gan rybuddio y bydd eu deddf newydd yn arwain at fyd o “waed, tân a phoen”.

Mae Prif Weinidog Israel, Benjamin Netanyahu, wedi ymateb trwy ddweud bod Twrci wedi troi’n “unbennaeth dywyll” dan reolaeth Recep Tayyip Erdogan.