Mae heddlu yng Nghanada wedi enwi’r dyn sy’n cael ei amau o saethu pobol yn farw yn ninas Toronro.

Fe gafodd Faisal Hussain, 29, ei ladd gan yr heddlu nos Sul, wedi iddo fynd â gwn llaw i mewn i fwyty a chaffis a saethu at bobol ddiniwed. Fe gafodd merch ddeg oed, a dynes 18 eu lladd, ac fe gafodd 13 o bobol eraill eu hanafu.

Dyw’r heddlu ddim eto yn gwybod pam iddo benderfynu dechrau ymosod ar bobol.

Yn y cyfamser, mae teulu Faisal Hussain yn dweud ei fod yn diodde’ o broblemau iechyd meddwl difrifol, a’u bod nhw wedi’u siomi a’u chwalu gan y modd y daeth ei fywyd i ben.

Roedd wedi ymladd seicosis ac iselder trwy’i fywyd, yn ol ei deulu, a doedd therapi na meddyginiaeth ddim wedi llwyddo i gael ei gyflyrau dan reolaeth.

“Mae ein calonnau yn deilchion hefyd dros y dioddefwyr,” meddai’r teulu mewn datganiad.