Mae nifer o bobol yn farw, a channoedd ar goll, wedi i argae hydro ddymchwel yn ne-ddwyrain Laos.

Fe gafodd dwr ei ryddhau o argae Xepian-Xe Nam Noy yn nhalaith Attapeu nos Lun (Gorffennaf 23), gan sgubu cartrefi o’r neilltu. Y gred ydi fod cynifer â 6,600 o bobol bellach yn ddigartref.

Fe godwyd yr argae fel menter ar y cyd rhwng cwmniau o Dde Corea, gyda phartneriaid eraill o wlad Thai a Laos.

Y darn sydd wedi dymchwel yw’r rhan oedd fel arfer yn dal y dwr wrth-gefn, yn ychwanegol i’r dyfroedd yn y prif argae.

Mae cyfarfod misol llywodraeth Laos wedi’i ohirio heddiw, wrth i brif weinidog y wlad, Thongloun Sisoulith, fynd â rhai aelodau o’i gabinet i ymweld ag ardal Sanamxay, i weld y gwaith achub a’r ymdrechion i achub a rhoi lloches dros-dro i bobol sydd wedi’u heffeithio.

Mae sawl ardal yn Laos wedi’u heffeithio yn ddiweddar gan lifogydd y tymor glaw.