Mae Donald Trump wedi ymateb yn chwyrn i fygythiad gan Arlywydd Iran dros y penwythnos.

Ar ddydd Sul (Gorffennaf 22), mi ddywedodd Hassan Rouhani bod ei wlad yn medru cynnig naill ai “heddwch o’r lefel uchaf” neu “rhyfel i’r eithaf”.

A bellach mae Arlywydd yr Unol Daleithiau wedi ymateb trwy ei ddull arferol, sef neges ar Twitter.

“Peidiwch bygwth yr Unol Daleithiau eto, neu mi fyddwch chi’n wynebu ymateb sydd ond wedi’i brofi gan lond llaw o [bobol] trwy gydol hanes [dynoliaeth],” meddai.

“D’yn ni ddim bellach yn wlad a fydd yn goddef eich geiriau treisgar. Byddwch yn ofalus!”

Perthynas dymhestlog

Ym mis Mai fe gefnodd Donald Trump ar gytundeb niwclear Iran – dêl sydd i fod i atal y wlad rhag datblygu arfau niwclear – ac fe orchmynnodd bod rhagor o sancsiynau yn cael eu gosod arnyn nhw.

Ac ym mis Rhagfyr y llynedd, mi wnaeth yr Arlywydd gydnabod Jerwsalem yn brifddinas Israel, a gosododd gyfyngiadau teithio ar wledydd Mwslimaidd.

Mae Hassan Rouhani wedi bod yn feirniadol o’r penderfyniadau yma oll, gan alw ar Donald Trump i stopio herio ei wlad.