Mae dynes wedi cael ei saethu’n farw ac 13 o bobl wedi’u hanafu ar ôl i ddyn arfog danio gwn at bobol a busnesau yn Toronto, Canada.

Fe ddigwyddodd yr ymosodiad yn ardal Greektown, ac yn ôl fideo gan un llygad dyst roedd dyn wedi’i wisgo mewn du wedi tanio gwn at y pafin ac o leiaf un siop neu fwyty yn hwyr dydd Sul.

Yn ôl llygad dystion roedden nhw wedi clywed tua 20 neu 30 o ergydion.

Dywedodd pennaeth yr heddlu Mark Saunders nad ydyn nhw wedi diystyru ei fod yn ddigwyddiad brawychol.

Cafodd dynes ei lladd a merch 9 oed ei hanafu’n ddifrifol.

Roedd y dyn wedi marw ar ôl cael ei saethu gan yr heddlu.

Mae achosion o saethu torfol yn anghyffredin yn ninas fwyaf Canada.