Mae 11 o aelodau o gymdeithas gyrwyr tacsis wedi cael eu saethu’n farw wrth deithio ar fws mini yn Ne Affrica.

Cafodd pedwar o bobol eraill eu clwyfo yn y digwyddiad.

Mae lle i gredu eu bod nhw’n mynd adref ar ôl angladd cydweithiwr pan ddigwyddodd yr ymosodiad rhwng trefi Colenso a Weenen yn nhalaith KwaZulu-Natal.

Roedden nhw wedi teithio yno o dalaith Gauteng.

Mae’r heddlu’n cynnal ymchwiliad.

Mae tensiynau rhwng gyrwyr tacsi’n aml yn arwain at drais yn y wlad.