Mae wyth o bobol a oedd yn arfer ymladd yn erbyn llywodraeth Colombia gyda gynnau a bomiau, bellach wedi tyngu llw yn aelodau o gynghres y wlad.

Mae cyn-ymgyrchwyr y mudiad oedd yn ei alw ei hun yn Lluoedd Arfog Chwyldroadol Colombia, wedi cymryd eu seddi yn y ty, ac mae’r cam yn cael ei weld fel cam arall yn y broses o gadarnhau cytundeb heddwch.

Mae’r gwleidyddion newydd yn cynrychioli carfan fechan mewn Cynghres sy’n wynebu her fawr o ddod â heddwch i’r wlad. Roedd y gwrthryfelwyr wedi cael addewid o ddeg o seddi fel rhan o’r cytundeb… er bod hynny wedi gwylltio nifer o bobol yn Colombia.

Yn ei araith, mae’r arlywydd Juan Manuel Santos, sy’n dod i ddiwedd ei gyfnod yn y swydd, wedi cydnabod ofnau rhai Colombiaid o gofleidio’r cyn-wrthryfelwyr yn wleidyddion. Ond, meddai, mae gwleidyddiaeth yn un o’r symbolau mwya’ pwerus o ddemocratiaeth ar waith.

Fe fethodd dau o’r cyn-wrthryfelwyr â chymryd eu lle yn y gynghres ddydd Gwener – a hynny oherwydd bod Seuxis Hernandez yn dal i fod yng ngharchar am droseddau yn ymwneud â chyffuriau; tra bod Ivan Marquez yn dal i guddio mewn gwersyl ar gyfer cyn-ymladdwyr guerrilla ac yn dweud ei fod yn ofni am ei ddiogelwch.