Mae arweinwyr Hamas yn dweud eu bod wedi derbyn amodau cadoediad, sy’n dod â chyfnod dwys o ymosodiadau gan fyddin Israel i ben. Fe gafodd milwr ei ladd.

Fe ddaeth cadarnhad gan lefarydd ar ran Hamas eu bod yn fodlon â’r telerau sy’n rhan o’r cytundeb a grewyd gan swyddogion y Cenhedloedd Unedig a’r Aifft.

Fe gafodd dros 60 o “dargedau” yn gysylltiedig â Hamas eu chwalu ddoe (dydd Gwener, Gorffennaf 20) gan fomiau Israel, a’r rheiny’n cynnwys tri phencadlys. Fe laddwyd pedwar o Balesteiniaid gan y cyrchoedd awyr – tri ohonyn nhw’n aelodau o Hamas.

Mae’r trais diweddara’ yn ganlyniad i fisoedd o brotestiadau sydd wedi’u trefnu gan Hamas yn erbyn y blocâd gan Israel a’r Aifft yn Gaza. Mae mwy na 130 o Balesteiniaid wedi’u lladd yn ystod y gwrthdaro hwnnw a ddechreuodd ar Fawrth 30.