Mae 14 o bobol wedi’u hanafu yn dilyn ymosodiad ar fws yng ngogledd yr Almaen.

Yn ôl papur newydd lleol, fe ymoaododd dyn â chyllell ar bobol a oedd yn teithio ar fws prysur yn ninas Luebeck.

Mae gwasanaeth newyddion yr Almaen, dpa, yn adrodd bod tri pherson wedi eu hanafu’n “ddifrifol”, tra bod eraill wedi cael “mân anafiadau”.

Mae’r heddlu wedi cadarnhau eu bod nhw eisoes wedi arestio dyn mewn cysylltiad â’r digwyddiad, a’u bod nhw’n parhau i geisio darganfod beth yn union ddigwyddodd.